Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc
Enw Cadeirydd y grŵp:
Altaf Hussain AS
Enwau Aelodau eraill o’r Senedd:
Mabon ap Gwynfor, Mike Hedges, Mark Isherwood
Enw'r Ysgrifennydd a’r Sefydliad:
Angela Contestabile, Arweinydd Polisi a Dylanwadu, Cymdeithas Strôc
Enwau'r aelodau allanol eraill a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli:
Shakeel Ahmad (GIG ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Strôc yng Nghymru), Niki Turner (GIG)
Dyddiad y cyfarfod:
12 Hydref 2023
Yn bresennol:
Huw Irranca-Davies AS (y Cadeirydd ar y pryd)
Altaf Hussain AS (Is-gadeirydd, yr unig Gadeirydd bellach)
David Rees AS
Mark Isherwood AS
Sam Humphrey, Rheolwr Cyfathrebu, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Angela Contestabile, Arweinydd Polisi a Dylanwadu, Cymdeithas Strôc
Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru, Cymdeithas Strôc
Katie MacGregor, Cymdeithas Strôc
Colin Evans, Cymdeithas Strôc
Lynn Preece, Cymdeithas Strôc
Llinos Wyn Parry, Cymdeithas Strôc
Emma Burke, Cymdeithas Strôc
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
1. Pleidleisio, croeso ac ymddiheuriadau
2. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac ailsefydlu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc
Nododd Huw Irranca-Davies fod angen ailsefydlu’r grŵp, a oedd yn golygu bod angen enwebu aelodau.
Mae AH a DR yn enwebu HID yn Gadeirydd. Etholwyd Huw Irranca-Davies yn Gadeirydd. Mae DR ac AH yn enwebu AC yn Ysgrifennydd ac mae AC yn cael ei ethol yn Ysgrifennydd. Mae DR yn enwebu AH ac mae HID yn eilio. Etholwyd AH yn Is-gadeirydd.
Croesawodd HID bawb i’r cyfarfod. Eglurodd y byddai’r cyfarfod yn cael ei recordio, gan gynghori unrhyw un nad oedd am fod yn rhan o’r recordiad i ddiffodd ei gamera.
Gwnaeth HID ailsefydlu'r Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc yn swyddogol.
3. Straeon gan oroeswyr strôc a phwysigrwydd gweithredu yn unol â’r prawf wyneb, braich a lleferydd (y prawf FAST)
Mae AGIC yn cyflwyno'r eitem gyntaf: profiad byw o strôc a phwysigrwydd gweithredu yn unol â’r prawf FAST. Mae AC yn cyflwyno Fran ac yn ei gwahodd i rannu ei stori.
Cyflwynodd Fran ei hun, gan rannu’r ffaith ei bod wedi cael strôc 15 mis yn ôl, a'i bod bellach yn dioddef o affasia. Eglurodd mai anhwylder cyfathrebu yw hwn. Eglurodd hefyd ei bod yn aml yn profi blinder, cur pen, a hwyliau isel yn dilyn ei strôc. Ar ôl iddi fynd i’r gwely, gwnaeth Fran ddeffro yng nghanol y nos ac nid oedd yn teimlo'n hwylus. Roedd nam ar ei hwyneb. Nid oedd am darfu ar gwsg unrhyw un yn y tŷ, ac felly penderfynodd fynd yn ôl i gysgu. Fore Gwener, deffrodd Fran ac aeth i lawr y grisiau a cheisio cael sgwrs â'i gŵr.
Ceisiodd Fran siarad, ond nid oedd yn gallu ynganu ei geiriau. Roedd gŵr Fran yn gallu gweld ei bod wedi mynd i banig, ac roedd yn gwybod bod rhywbeth o'i le. Ffoniodd 999, a chafodd wybod y byddai’n aros am bedair awr. Felly, aeth gŵr Fran â hi i'r ysbyty. Yn ffodus, cafodd ei gweld ar unwaith, gan ei bod hi’n weddol gynnar yn y bore.
Roedd angen gwasanaethau adsefydlu ar Fran, ond nid oedd gwely ar gael. Gwnaeth Fran ryddhau ei hun 10 diwrnod ar ôl cael ei derbyn i'r ysbyty yn sgil ei strôc oherwydd bod ei hiechyd meddwl yn gwaethygu, ac roedd ganddi’r gallu i adael yr ysbyty yn gorfforol. Ers dod adref, mae hi wedi cael cymorth gan y Gymdeithas Strôc a rhywfaint o gymorth preifat, gan gynnwys gan Dr Ahmad yn Ysbyty Spire.
Roedd yn 48 oed pan gafodd ei strôc. Mae llawer o bobl yn meddwl mai pobl hŷn yn unig sy’n gallu cael strôc. Roedd Fran yn ffit ac yn iach. Pe bai hi wedi deffro ei gŵr y noson honno, byddai ef wedi gweld ei hwyneb ac wedi deall bod angen cymorth arni. Mae hi o’r farn y gellid bod wedi gweithredu’n gynt, ac y byddai ei gŵr wedi adnabod yr arwyddion a’r symptomau a oedd yn gysylltiedig â chael strôc. Mae ei phlant bellach yn gwybod y gall strôc daro unrhyw un, ac maent yn ymwybodol o’r arwyddion a’r prawf FAST. Fodd bynnag, nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r rhain.
Diolchodd HID i Fran am rannu ei stori mewn ffordd mor onest a dewr. Ailadroddodd pa mor bwysig yw gweithredu yn unol â’r prawf FAST, gan sicrhau bod pobl yn ymwybodol o arwyddion strôc.
Holodd HID am hynt ei hadferiad. Gwnaeth ei llongyfarch ar rannu ei stori, gan gydnabod bod hyn yn rhan o’r daith. Eglurodd Fran fod yr adferiad yn broses araf iawn. Mae'n cymryd blynyddoedd yn hytrach na dyddiau. Nid yw siarad yn teimlo'n naturiol, ac mae darllen hefyd yn anodd. Dywedodd Fran, er ei bod hi wedi blino, ei bod hi’n gwneud yn dda.
4. Cyflwyno canfyddiadau allweddol ymgyrch FAST Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r argymhellion ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol (Samuel Humphrey, Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Gwnaeth HID wahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi’r cyflwyniad cyntaf, a oedd yn manylu ar ganlyniadau’r ymgyrch FAST a gynhaliwyd yn ddiweddar. Cyflwynodd Sam Humphrey, sef Rheolwr Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Eglurodd SH fod yr ymgyrch wedi cael ei chynnal drwy gydol fis Mai 2023. Prif amcan yr ymgyrch yw lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i bobl ffonio 999 a chyrraedd yr ysbyty. Mae’n defnyddio dull profedig, gan gynnwys delweddau bachog a'r acronym adnabyddus dan sylw, sef FAST.
Mae strôc yn cael effaith anghymesur ar rai grwpiau. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys y rhai dros 50 oed a phobl o gefndiroedd BAME, er enghraifft.
Mae'r sianeli a ddefnyddir yn arbennig o bwysig. Gan fod llawer o bobl dros 50 oed yn gwylio’r teledu ac yn gwrando ar y radio, defnyddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y cyfryngau hynny. Fodd bynnag, ni wnaeth y sefydliad esgeuluso’r cyfryngau cymdeithasol, gan fod angen i aelodau eraill o'r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r mater hwn.
Roedd gan y sefydliad hawl i hysbyseb, a phenderfynodd y dylid addasu’r hysbyseb hon ar gyfer Cymru gan ddefnyddio actor llais. Mae SH yn dangos yr hysbyseb i'r grŵp. Mae'r hysbyseb hon wedi cael ei defnyddio yn llwyddiannus yn Lloegr, ond yr her oedd sicrhau ei bod yr un mor ddylanwadol ymhlith siaradwyr Cymraeg.
Cydweithiodd y sefydliad ag asiantaeth er mwyn dyfeisio’r ymgyrch NESA. Hynny yw, pan fydd person yn dioddef strôc, cofiwch y camau NESAF i’w cymryd. Mae SH yn dangos yr hysbyseb Cymraeg i'r grŵp.
Mae teledu yn gyfrwng pwerus iawn, a chafodd hysbysebion fideo ar alw eu dangos er mwyn ceisio cyrraedd grwpiau y mae strôc yn effeithio arnynt yn anghymesur. Cawsant 5,127,227 o argraffiadau (300,000 ar gyfer yr hysbyseb Cymraeg). Nododd SH fod y ffigurau hyn yn cyfeirio at y nifer o weithiau y cafodd yr hysbysebion eu gweld, nid nifer y bobl a welodd yr hysbysebion. Efallai bod rhai pobl wedi gweld yr hysbysebion sawl gwaith.
Perfformiodd yr hysbysebion a ddarlledwyd ar y radio yn dda iawn hefyd. Defnyddiwyd rhai gorsafoedd radio penodol er mwyn targedu Wrecsam a'r Fro. Roedd rhai gorsafoedd radio byd-eang, gan gynnwys Classic FM, hefyd wedi rhoi sylw i’r mater, yn ogystal â Wales Online.
Cafwyd oddeutu 4 miliwn o argraffiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn gweld yr hysbyseb bedair gwaith. Gwelodd 1 miliwn o bobl yr hysbysebion, a chafwyd 6,000 o gliciau ar y linc i'r dudalen strôc ar wefan 111 y GIG.
Defnyddiwyd asedau a rennir â byrddau iechyd a’r trydydd sector, a phecyn cymorth digidol. O bryd i’w gilydd, gofynnwyd am waith ymgysylltu wyneb yn wyneb, gan gynnwys cais gan Women Connect First yn Grangetown.
Yn sgil yr ymgyrch hon, cafodd cwestiynau eu cynnwys yn yr arolwg rheolaidd ar gyfer Panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd 38 y cant o ymatebwyr wedi gweld yr ymgyrch yn ystod mis Mai.
Nododd SH fod hwn yn sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth, ac nid yn unig y ddemograffeg a dargedwyd. Felly, mae'n dystiolaeth gadarn o ran yr effaith y gall yr ymgyrch FAST ei chael.
Ymhlith yr argymhellion ar gyfer y dyfodol, mae caniatáu mwy o amser ar gyfer cynllunio a gwerthuso'r ymgyrch yn well. Er enghraifft, dylid cynnal arolwg cyn ac ar ôl yr ymgyrch. At hynny, gallai Iechyd Cyhoeddus Cymru fod wedi gwneud mwy o waith mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o ran gwerthuso a chynllunio cyn yr ymgyrch.
Beth yn fwy y gellir ei wneud? Cafwyd adborth ardderchog yn sgil y sesiwn ymgysylltu yn Grangetown. Mae AGIC yn awgrymu y dylid ymgysylltu â'r gymuned er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch strôc, a thynnodd SH sylw at y ffaith y gallai’r ymgyrch FAST fod yn gyfrwng da ar gyfer gwneud hyn. Gallai fod yn ddefnyddiol arddangos rhai deunyddiau wedi’u hargraffu mewn meddygfeydd teulu.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y bydd angen adnewyddu’r ymgyrch FAST yn fuan. Awgrymodd SH hefyd fod angen i’r hysbysebion a’r cynnwys fod mor benodol i Gymru â phosibl. Er enghraifft, a yw'r hysbyseb yn targedu'r grwpiau yng Nghymru y mae angen eu targedu?
Diolchodd HID i SH, gan fyfyrio ar y gwersi y gallwn eu dysgu yn sgil hyn er mwyn sicrhau cynnydd.
5. Canfyddiadau allweddol yr Adolygiad Cenedlaethol a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch Llif Cleifion (y Llwybr Strôc) a’r argymhellion ynghylch yr ymgyrch FAST (Angela Contestabile, Arweinydd Polisi a Dylanwadu, Cymdeithas Strôc)
Cyflwynodd HID yr eitem nesaf, sef crynodeb o’r argymhellion a ddeilliodd o adolygiad AGIC o’r llwybr strôc. Ymddiheurodd am y ffaith nad oedd modd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn bresennol, a chyflwynodd Angela Contestabile, Arweinydd Polisi a Dylanwadu y Gymdeithas Strôc, i arwain ar yr eitem hon ar yr agenda.
Mae AC yn esbonio bod AGIC yn cyfateb i OFSTED ond ar gyfer iechyd. Nododd fod strôc wedi cael ei defnyddio fel meincnod ar gyfer asesu llif cleifion. Gofynnodd HID sut y gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ystyried ymgysylltu â phobl er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch strôc? Ym mha faes y gall hyn wneud y gwahaniaeth mwyaf?
Mae grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn fwy tebygol o gael strôc, neu bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Nododd AGIC yn ei hadroddiad nad yw delweddau o’r GIG yn aml yn cynrychioli’r grwpiau hyn. Yn ôl data a gyhoeddwyd yn ddiweddar (2018-20), mae demograffeg Cymru yn cael ei gynrychioli fel a ganlyn: mae 95 y cant o bobl yn nodi eu bod yn wyn, a 5 y cant yn nodi eu bod o gefndir BAME.
Mae’n bwysig bod byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu mewn modd ystyrlon â grwpiau y mae strôc wedi cael effaith anghymesur arnynt, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Roedd yr argymhellion a gafwyd gan AGIC yn cynnwys gwella cydweithio, rhannu arfer da, codi ymwybyddiaeth o strôc, ac atal strôc, ochr yn ochr â’r ymgyrch FAST. Yn ogystal, dylid cydweithio'n agos â phobl y mae strôc wedi cael effaith anghymesur arnynt er mwyn sicrhau canlyniadau iechyd gwell.
Beth sydd angen digwydd nesaf? Rydym angen ymrwymiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnal ymgyrch bob dwy flynedd. Yn ogystal, rydym angen ymrwymiad gan y Gweinidog parthed ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol ar gyfer strôc ac atal strôc. Rydym hefyd angen sicrhau bod yr holl randdeiliaid angenrheidiol yn cael eu cynnwys o'r camau cynllunio cychwynnol hyd at y broses werthuso.
Diolchodd HID i AC. Dywedodd HID y byddai’r grŵp yn ystyried y pwyntiau hyn ac yn gweithredu arnynt, gan wneud rhai argymhellion ar gyfer y dyfodol.
6. Y sefyllfa ar hyn o bryd yng Nghymru, a’r argymhellion ar gyfer y camau nesaf (Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru, Cymdeithas Strôc)
Cyflwynodd HID Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt y Gymdeithas Strôc.
Diolchodd KC i HID ac egluro bod y Gymdeithas Strôc yn elusen sy’n cefnogi goroeswyr strôc ac yn gweithredu fel llais sy’n caniatáu iddynt ddwyn systemau i gyfrif (fel Llywodraeth Cymru a’r GIG).
Disgwylir i nifer y goroeswyr strôc gynyddu 50 y cant yn yr 20 mlynedd nesaf. Gwyddom y bydd hyn yn cynnwys mwy o bobl o oedran gweithio, gan y bydd pobl yn gweithio’n hirach. Rydym am weld pobl yn cael eu cefnogi mewn modd priodol, fel y gallant reoli eu gofal eu hunain pan fo'n briodol iddynt wneud hynny.
Gwyddom oll pa mor bwysig yw gofalu am ein hiechyd, ond mae angen inni wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar y pethau sy’n caniatáu iddynt fyw’n dda. Mae'r rhain yn cynnwys mynediad i dai, aer glân, mannau gwyrdd a gofal ataliol. Yn aml, rydym yn gweld mwy o bobl yr amheuid eu bod wedi cael strôc yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, ac efallai nad oes ganddynt y llythrennedd iechyd i eirioli dros eu hunain neu aelod o’u teulu yn y dderbynfa.
Gall yr atebion i rai o'r materion hyn fod yn syml ac yn gost-effeithiol. Mae angen sicrhau bod yr ymgyrch FAST yn cael yr amser sydd ei angen arni i gyrraedd y bobl briodol er mwyn iddi gael yr effaith fwyaf bosibl. Dywedodd KC fod AGIC wedi argymell bod angen cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth strôc ochr yn ochr ag ymgyrch FAST. Mae angen i hyn gyd-fynd hefyd â’r ymdrechion i dargedu'r ymgyrchoedd hyn at gymunedau BAME a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Gwnaed argymhelliad y dylai holl aelodau'r GIG fod yn ymwybodol o'r ymgyrch FAST a'r offeryn Nodi Strôc yn yr Ystafell Frys (Recognition of Stroke in the Emergency Room – ROSIER). Mae angen i bawb gael eu hyfforddi i ddefnyddio’r offeryn hwn, gan gynnwys derbynyddion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Bydd hyn yn gwella llif cleifion ac yn sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer strôc.
Mae HID yn diolch i KC am rannu rhagor o wybodaeth ac am dynnu sylw at y negeseuon a’r camau y gallwn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion strôc yng Nghymru.
7. Cwestiynau a thrafodaeth
Agorodd HID y llawr i gwestiynau, gan drosglwyddo’r awenau i John Hunt.
Mynegodd JH bryder ynghylch targedu pobl dros 50 oed a phobl â chyflyrau eraill sy’n destun ffactorau sy’n gysylltiedig â byw bywydau nad ydynt yn iach. Awgrymodd fod angen canolbwyntio ar grwpiau iechyd a ffitrwydd hefyd, a hynny er mwyn lliniaru’r rhagdybiaethau cyffredin ynghylch strôc.
Cytunodd DR â JH fod angen i ymgyrchoedd yn y dyfodol ganolbwyntio ar grwpiau oedran eraill hefyd. Soniodd fod angen canolbwyntio ar hyn yn sgil y ffaith iddo gyfarfod â goroeswr strôc ifanc yn ddiweddar a rannodd ei hanes.
Mae AH hefyd yn rhannu ei fyfyrdodau. Mae AH o’r farn y dylem fod yn siarad am addysg o oedran ysgol. Mae angen canolbwyntio ar ambiwlansys hefyd. Mae'n mynd i wneud gwaith dilynol ar y mater hwn a siarad â'r Gweinidog, y Gymdeithas Strôc a chydweithwyr eraill yn y gobaith y bydd rhai atebion yn cael eu hawgrymu.
Gwnaeth HID argymell bod ei gyd-Aelodau o’r Senedd yn llunio’r camau gweithredu a’r argymhellion yn deillio o’r cyfarfod ac yn eu rhannu â’r holl Aelodau.
Soniodd MI am ymweld â'r grŵp ym Mwcle, Sir y Fflint. Dywedodd fod goroeswyr strôc yno hefyd wedi sôn am yr angen i weithio’n drawsffiniol gydag ysbytai yn Lloegr, lle mae’n rhaid i lawer o oroeswyr strôc gael gofal.
Mae HID yn trosglwyddo i Alice Robin o BIPBC. Cododd AR y ffaith nad yw llawer o bobl bob amser yn cyflwyno yn unol â’r prawf FAST. Soniodd AR fod prawf VFAST hefyd yn bosibl, gan ei fod yn tynnu sylw at y symptomau gweledol y gall pobl eu dioddef. Yn ogystal, cododd AR amseroedd ymateb ambiwlansys, a’r ffaith nad oes targed amser yng Nghymru ar gyfer cyrraedd pobl yng nghategori Ambr y model ymateb. Gwnaeth AR argymell ein bod yn ystyried hyn fel rhan o unrhyw waith yn y dyfodol.
Gwnaeth HID wahodd Shakeel Ahmad, arweinydd clinigol ym maes strôc, i siarad. Tynnodd SA sylw at y ffaith bod angen canolbwyntio ar bob maes yn y llwybr strôc. Roedd adroddiad AGIC yn canolbwyntio ar lif ac yn tynnu sylw at y ffaith bod systemau dan bwysau aruthrol. Mae llawer o heriau yn y maes hwn, sy’n achosi llawer o broblemau wrth y drws ffrynt. Mae hyn yn arwain at nifer o gymhlethdodau i gleifion sy’n cyflwyno yn unol â’r prawf FAST a chleifion sy'n cyflwyno eu hunain. Mae angen canolbwyntio ar adsefydlu yn y gymuned. Eglurodd fod cynllun peilot ar gyfer brysbennu cleifion drwy gyfrwng fideo cyn iddynt fynd i’r ysbyty yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yng Nghaerdydd. Arbrawf yw hwn, ond bydd yn caniatáu inni ddysgu gwersi, a hynny yn y gobaith o’i gyflwyno ledled Cymru.
Mae HID yn gwahodd Debbie i rannu ei syniadau. Mae Debbie yn oroeswr strôc. Mae’n cytuno â phwyntiau JH ynghylch goroeswyr strôc ifanc a sut y gallwn wneud yn siŵr hefyd eu bod nhw’n ymwybodol ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol.
Awgrymodd Johanna Brown (ARCH) ein bod yn targedu rhai grwpiau yn eu hieithoedd eu hunain – yn enwedig mewn meddygfeydd sydd â phoblogaethau uchel o bobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Yn ogystal, mae angen sicrhau bod y slotiau a ddefnyddir ar gyfer hysbysebion yn arwain at y cyrhaeddiad mwyaf posibl. Rhoddwyd enghraifft o raglen Saesneg ei hiaith a oedd yn cynnwys hysbyseb Cymraeg ar gyfer ymgyrch FAST. Nid oedd hyn wedi arwain at y cyrhaeddiad mwyaf posibl, a siawns bod angen edrych ar y mater hwn mewn perthynas ag ymgyrchoedd pellach.
Diolchodd Lynda Kenway, Rheolwr y Rhaglen Strôc Genedlaethol, i bawb am fod yn bresennol ac am eu sylwadau. Amlinellodd LK natur y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weithrediaeth y GIG ar y llwybr strôc cyfan, gan gynnwys dechrau a diwedd y llwybr. Mae'n bwysig sicrhau bod pobl yn adnabod y symptomau ac yn gallu cymryd camau gweithredu mor gyflym â phosibl. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bellach mewn sefyllfa anodd. Mae’r staff yn gwneud eu gorau, ond rydym ar ei hôl hi. Mae LK yn esbonio eu bod yn ymgysylltu ag elusennau ar hyn o bryd a bydd goroeswyr strôc yn cymryd rhan yng ngwaith y rhaglen ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r grŵp.
Tynnodd Judith Rees sylw at bryderon ynghylch negeseuon cymysg y GIG yn y cyfryngau. Yn aml, rydym yn clywed am bobl yn cael eu hannog i osgoi adrannau damweiniau ac achosion brys yn sgil pwysau eithafol. Mae angen ailedrych ar y mater hwn a sicrhau ein bod yn dweud wrth bobl pa bethau sy'n cynrychioli argyfwng ac ar ba adegau y dylent fod yn ceisio gofal.
Gwnaeth JH fynd i’r afael â phwynt AR, a thynnodd sylw at y ffaith mai Ambr yw’r categori a ddynodir ar gyfer strôc gan fod y categori hwn yn golygu anfon y cerbydau mwyaf priodol ar gyfer strôc. Pe bai strôc yn y categori coch, mae’n bosibl y byddai cerbydau nad ydynt yn addas ar gyfer ymdrin â strôc yn cael eu hanfon. Tynnodd JH sylw hefyd at y ffaith bod angen sicrhau bod goroeswyr strôc yn cael eu parchu ar ôl eu strôc, ac yn cael eu gweld fel pobl y mae eu bywydau yn werth eu byw.
Mae SH yn pwysleisio ei fod yn cytuno â JH. Mewn ymateb i JB, dywed SH eu bod wedi treialu ieithoedd eraill ar gyfer brechlynnau Covid a chanfod na ddefnyddiwyd yr adnoddau. Fodd bynnag, y dull a weithiodd orau ar gyfer y grwpiau hyn oedd ymgysylltu wyneb yn wyneb a defnyddio negeswyr y gellir ymddiried ynddynt o’r cymunedau hynny. Felly, mae’n bosibl y gwneir mwy o waith allgymorth ac ymgysylltu yn y dyfodol.
8. Sylwadau i gloi: Katie Chappelle a Huw Irranca-Davies AS
Mae HID yn gwahodd KC i ddod i gasgliad ac ymateb i sylwadau.
Dywedodd KC ei bod yn cytuno ar yr ymgyrch FAST parthed symptomau eraill. Serch hynny, awgrymodd fod angen ymwreiddio'r neges bwysig honno cyn ehangu’r ymgyrch a rhoi rhagor o gig ar yr asgwrn.
Gofynnodd KC i’r grŵp trawsbleidiol ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn tynnu sylw at yr angen i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth strôc ac ymgyrch FAST o leiaf unwaith bob dwy flynedd.
Mae HID yn gofyn i AC fel Ysgrifenydd a all ddwyn y prif bwyntiau ynghyd fel y gall Aelodau’r Senedd sy’n ymwneud â’r grŵp trawsbleidiol anfon llythyr. Mae HID hefyd yn awgrymu eu bod yn edrych ar sut mae Aelodau’r Senedd yn mynd at eu byrddau iechyd lleol eu hunain a gallant hefyd gynnwys rhywfaint o wybodaeth a gofyn iddynt ymuno â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc. Bydd HID hefyd yn gwneud yn siŵr y gofynnir i Aelodau’r Senedd gwrdd â goroeswyr strôc, y Gymdeithas Strôc a byrddau iechyd i ddysgu am strôc.
Gwnaeth HID rai sylwadau i gloi, gan ddiolch i'w gydweithwyr am dderbyn rolau ar y grŵp trawsbleidiol, a chan ddiolch hefyd i’r rhai sydd â phrofiad byw am rannu eu hanesion. Eglurodd HID y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter, ac y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i ymgynghori â’r grŵp ynghylch yr agenda ymlaen llaw.
Mae HID yn trosglwyddo i AC sy'n diolch i'r holl gyflwynwyr a HID am gadeirio'r cyfarfod.
Mae HID yn dod â'r cyfarfod i ben.
Gallwch wylio'r
recordiad YouTube o'r grŵp trawsbleidiol yma:
https://www.youtube.com/watch?v=TvvQh1xFokQ
Dyddiad y cyfarfod:
14 Mawrth
Yn bresennol:
Angela Contestabile, Claire Morgan, John Hunt, David, Judith Rees, Katie Chappelle, Huw Irranca-Davies (AS), Llinos Wyn Parry, Adele Griffiths (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol), john hollies, Sushmita Mohapatra (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Therapïau a’r Gwyddorau Iechyd), Susan Wilson (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Therapïau a’r Gwyddorau Iechyd), Abdul Seckam.
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Noder mai crynodeb yw hwn ac efallai na fydd yn cynnwys yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod.
Mae trawsgrifiad llawn ar gael a gallwch wylio recordiad o’r grŵp trawsbleidiol ar YouTube yma https://www.youtube.com/watch?v=guPByXGIIek
Cyfarfod 3 – Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl a Strôc
Dyddiad y cyfarfod:
6 Mehefin
Yn bresennol:
Angela Contestabile, Aaron Kent, Altaf Hussain (Swyddfa Altaf Hussain), Mark Major (Staff Cymorth yr Aelod), Simon Jones, Lynn Preece, Jeremy Bacon, Evans, Hilary (HSS – Cyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio), Whitney Barber, Carla Jackson (Gweithrediaeth y GIG), Natalie Samuel, Joanna Wilkes (Gweithrediaeth y GIG), Katie Chappelle, Niki Turner (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Meddygaeth Integredig), Annabelle Llanes Sierra, Williams, Tracey (HSS - Cyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio)
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
·
Canolbwyntiodd y cyfarfod ar effaith sylweddol strôc ar
iechyd meddwl a phwysigrwydd mynd i’r afael â’r
agwedd hon mewn adferiad ac adsefydlu.
Sylwch mai crynodeb yw hwn ac efallai na fydd yn cynnwys yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod. Mae trawsgrifiad llawn ar gael a recordiad o'r cyfarfod yma: https://www.youtube.com/watch?v=xP4wB96YiwU
Dyddiad y cyfarfod:
25 Medi
Yn bresennol:
Angela Contestabile
Katie Chappelle
George Moore
Lynn Preece
Katherine Broomfield
|
Adele Griffiths |
|
Adrian Highes |
|
Alexander Smith |
|
Altaf Hussain AS |
|
Carys Williams |
|
Ceri Eady |
|
Doctor Natasha Collins |
|
Dona Lewis |
|
Dr Caroline Walters |
|
Dulaine Mulcahy |
|
George Moore |
|
Hannah Parrington |
|
Hywel Iorwerth |
|
Jane Gordijn |
|
Janet Finch-Saunders AS |
|
Janice Jones |
|
Jess Williams |
|
Joanne Sullivan |
|
Katherine Staley |
|
Katie Chappelle |
|
Kevin Duff |
|
Llinos Wyn Parry |
|
Lynn Preece |
|
Mark Isherwood AS |
|
Maxine Pring |
|
Menai Evans |
|
Nia Davies |
|
Nia Williams |
|
Nicholas Young |
|
Nick Gidman |
|
Niki Turner |
|
Sam Abraham |
|
Shumana Palit |
|
Sian Teagle |
|
Som Shekar |
|
Tom Hughes |
|
Vanessa Hayward |
Cliciwch neu tapiwch yma i deipio’r testun.
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Lansio'r adroddiad 'Profiadau Cymry Cymraeg ag affasia'
Cyfnod pleidleisio’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol wedi methu â digwydd oherwydd problemau technoleg yn y Senedd (sain, camera a chyfieithu ddim yn gweithio'n iawn ar gyfer cyfarfod hybrid) a dim digon o Aelodau Senedd trawsbleidiol. Cytunwyd naill ai i’w gynnal yn y cyfarfod nesaf neu i bleidleisio drwy e-bost.
Rhoddodd Sian Teagle, goroeswr strôc, ei barn am brofiad byw o fod yn siaradwr Cymraeg a’r diffyg mynediad at therapi lleferydd ac iaith Gymraeg ar ôl cael strôc.
Cafwyd cyflwyniad gan Carys Williams a Dr Katherine Broomfield o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar eu hymchwil i brofiadau Cymry Cymraeg ag affasia ar ôl cael strôc. Cafwyd trafodaeth yn yr ystafell ar y diffyg gwybodaeth am niferoedd y gweithlu strôc sy’n siarad Cymraeg, yn enwedig y rhai sy’n arbenigo mewn therapi lleferydd ac iaith. Yn ogystal, mae diffyg data ar yr angen (nifer y goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg). Nid oes digon yn cael ei wneud i hyrwyddo'r 'Cynnig Rhagweithiol' ac nid oes data’n cael ei gofnodi os gwneir y cynnig hwn a/neu ei effeithiolrwydd.
Mae cyflwyniad gan Katie Chappelle yn amlygu galwadau polisi allweddol y Gymdeithas Strôc, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o'r angen am gynnig gweithredol a gwell prosesau casglu data ac adrodd.
Canlyniadau
Amlygodd Gweithrediaeth y GIG (Niki Turner) y byddent yn cysylltu â’r Gymdeithas Strôc am brosiect ymchwil posibl i’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer goroeswyr strôc ag affasia.
Y Grŵp Trawsbleidiol (Altaf Hussain) i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg (Mark Drakeford) ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Jeremy Miles) i dynnu sylw at yr adroddiad a’r galwadau polisi a gofyn am gamau i’w cymryd i wella’r ‘Cynnig Rhagweithiol', yn enwedig i bobl ag affasia.
Prif Weithredwr Canolfan Dysgu Cymraeg Cymru i gwrdd â'r Gymdeithas Strôc a thrafod gwaith y ganolfan genedlaethol, gan gynnwys rhaglen newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal.
[Rhowch enwau'r lobïwyr/sefydliadau/elusennau fel a ganlyn, e.e.]
Enw'r sefydliad:
Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Lloegr, Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Gweithrediaeth y GIG
Enw’r grŵp:
Grŵp
Trawsbleidiol ar Strôc (ymgyrch FAST)
________________________________________________________________________________________________
Enw'r grŵp:
Mind Cymru, GIG Cymru, Gweithrediaeth y GIG, Llywodraeth Cymru
Enw’r grŵp:
Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc (strôc ac iechyd meddwl)
Enw'r sefydliad:
Gofalwyr Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, GIG Cymru, Gweithrediaeth y GIG, Llywodraeth Cymru
Enw’r grŵp:
Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc (strôc a gofalwyr)
________________________________________________________________________________________________
Enw'r sefydliad:
Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Metropolitan Caerdydd Prifysgol, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, Gweithrediaeth y GIG
Enw’r grŵp:
Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc (strôc a’r Gymraeg)
Datganiad Ariannol Blynyddol
Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc
Dyddiad:
26/09/24
Enw’r Cadeirydd:
Altaf Hussain AS
Enw'r ysgrifennydd a’r sefydliad:
Angela Contestabile, Arweinydd Polisi a Dylanwadu, Cymdeithas Strôc
|
Teitl |
Disgrifiad |
Swm |
|
Treuliau’r grŵp |
Dim |
Dim |
|
Costau’r holl nwyddau |
Dim |
Dim |
|
Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol |
Dim |
Dim |
|
Unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall. |
Dim |
Dim |
|
Cyfanswm Amh |
Amherthnasol |
|
Gwasanaethau a ddarparwyd i’r grŵp, megis lletygarwch.
Yr holl letygarwch y talwyd amdano [gan gynnwys enw'r grŵp/sefydliad].
|
Dyddiad |
Enw’r darparwr |
Costau |
|
Arlwyo ar gyfer Grŵp Trawsbleidiol hybrid ar 25 Medi – talwyd amdano gan y Gymdeithas Strôc a’i archebu drwy’r Senedd |
Cliciwch neu tapiwch yma i deipio’r testun. |
Cliciwch neu tapiwch yma i deipio’r testun. |
|
Click or tap here to enter text. |
Cliciwch neu tapiwch yma i deipio’r testun. |
Cliciwch neu tapiwch yma i deipio’r testun. |
|
Cyfanswm: £1,384,74 |
Click or tap here to enter text. |
|